Yn 1608 aeth ar daith i Ewrop — y gyntaf o'r teithiau a ddisgrifir mewn dull mor fywiog yn ei Life, un o'r hunangofiannau cyntaf yn yr iaith Saesneg. Dewiswyd ef yn llysgennad Lloegr yn Paris yn 1619, a bu'n byw yno mewn dull pur rwysgfawr hyd nes collodd y swydd yn 1624. Crewyd ef yn arglwydd Herbert (o) Cherbury yn 1629, eithr ymddengys ei fod yn siomedig am na chafodd ei gydnabod a'i ad-dalu fel y disgwyliai am ei wasanaeth i'r Goron. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol yr oedd yn amhleidiol; gwrthododd droeon gydsynio â cheisiadau i ymuno â phlaid y Brenhinwyr. Pan gymerodd llu'r Senedd ei gastell, symudodd Herbert i Lundain, ac yno y bu f. ar 20 Awst 1648.
Yr oedd Herbert yn ŵr golygus, coegfalch, teimladol, ac yn feddyliwr dwfn a gwrol — yn gymysgfa ryfedd o athronydd a digrifwas. Yr oedd iddo bersonoliaeth gref a fowldiwyd mewn oes o drawsnewid — o oes prysurdeb a gweithgarwch cyfnod Elisabeth i oes rheswm blynyddoedd olaf cyfnod y Stiwartiaid. Y mae ei De Veritate, 1624, yn pontio'r agendor rhwng meddwl cyfnod y Dadeni a'r cyfnod presennol, ac y mae ei ysgrifeniadau ar grefydd yn dangos y ffordd tuag at ddeistiaeth a diwinyddiaeth ryddfrydig y cyfnod diweddarach.
Yr Athro Richard