HOLLAND, HUGH (1569 - 1633), bardd a theithiwr

Enw: Hugh Holland
Dyddiad geni: 1569
Dyddiad marw: 1633
Priod: Ursula Holland
Plentyn: Phil Holland
Plentyn: Arbellinus Holland
Plentyn: Martin Holland
Rhiant: Robert Holland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a theithiwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Teithio
Awdur: Arthur Spencer Vaughan Thomas

Ganwyd yn Ninbych, mab Robert Holland o'r dref honno; gweler Holland (Teuluoedd) (6).

Cafodd Hugh Holland ei addysg yn Ysgol Westminster o dan William Camden a daeth i gryn sylw yno oblegid ei wybodaeth o'r clasuron. Yn 1589 cafodd ysgoloriaeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt; y mae'n bosibl iddo ddyfod yn gymrawd yno yn ddiweddarach. Wedi iddo adael Caergrawnt aeth dros y môr, gan ymweld â Rhufain a Jerusalem. Bu raid iddo ddioddef yn Rhufain am ddefnyddio rhai ymadroddion ynglŷn â'r frenhines Elisabeth - ' his overfull discourse betrayed his prudence,' medd Anthony Wood. Efallai iddo gael ei wneuthur yn Farchog y Bedd Sanctaidd yn Jerusalem; pan ddychwelodd trwy Gaergystennin beiwyd arno gan lysgennad Lloegr yno ' for the former freedom of his tongue.' Wedi iddo ddychwelyd i Loegr ymneilltuodd i Rydychen a threulio peth amser yno yn darllen yn y llyfrgelloedd; cysyllta traddodiad ei enw â Choleg Balliol. Wedi hynny bu'n byw yn Llundain ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn yr Inns of Court. Ar ôl iddo fod yn trafaelio yr oedd yn disgwyl rhyw fath o swydd neu fywoliaeth, ac am na chafodd un ' he grumbled out the rest of his life in visible discontent ' (Fuller). Gellir casglu oddi wrth rai o'i ganeuon, yn arbennig ei Cypres Garland, 1625, iddo gael un noddwr yn George Villiers, dug Buckingham, a'i cyflwynodd i'r brenin Iago I. Yn yr un gân sonia am ei wraig ' Ursula,' gweddw Robert Woodard, Burnham, swydd Buckingham, am ' Phil ' ei ferch, a mab o'r enw Martin. Fe'i goroeswyd gan fab arall, ' Arbellinus,' i'r hwn y rhoddwyd awdurdod yn 1633 i weinyddu stad ei dad wedi i hwnnw farw. Y mae'n amlwg i Holland gasglu peth cyfoeth; ' he had a good estate in Candlemas-rents ' (Hunter). Claddwyd ef yn abaty Westminster, 23 Gorffennaf 1633.

Prif deitl Holland i enwogrwydd ydyw'r soned ganmol sydd yn nechrau argraffiad cyntaf gweithiau William Shakespeare ('the first folio,' 1623). Er bod ynddi rai ymadroddion da, nid ydyw'r soned yn nodedig. Cyhoeddwyd dwy gân hir o'i waith a rhai darnau telynegol; yn eu plith y mae Pancharis: the first Booke. Containing the Preparation of the Love between Owen Tudyr and the Queene, long since intended to her Maiden Majestie and now dedicated to the Invincible James, 1603, a A Cypres Garland. For the Sacred Forehead of our Late Soveraigne King James, 1625. Ceir ganddo hefyd ganeuon canmol i Canzonets (Farnaby), 1598, Sejanus (Ben Jonson), 1605, Elements of Armory (Bolton), 1610, The Odcombian Banquet (Coryate), 1611, Parthenia, 1611, cyfieithiad Syr Thomas Hawkins o Horas, 1625, a Roxana (Alabaster), 1632. Y mae caniadau anghyhoeddedig o'i waith yn B.M. Lansdowne MS. 777 a B.M. Harleian MSS. 3910 a 6917 a llythyrau yn B.M. Cotton MS. Julius, C.iii (15). Ysgrifennodd hefyd feddargraff Lladin wedi marw George Montaigne, archesgob Caerefrog. Priodolwyd rhai gweithiau eraill i Holland - o bosibl oherwydd ei gymysgu â Henry Holland, mab Philemon Holland. Yr oedd Hugh Holland yn ysgolhaig a bardd a edmygid yn fawr yn ei gyfnod. Yr oedd yn aelod o'r Mermaid Club, ac y mae ei soned i'r ' First Folio ' yn awgrymu y gallai fod yn adnabod Shakespeare. Gwelodd Anthony Wood gopi o'r beddargraff canlynol a gyfansoddwyd gan y bardd ei hunan - 'Miserimus peccator, musarum et amicitiarum cultor sanctissimus.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.