Cywiriadau

HOLLAND, ROBERT (1557 - 1622), clerigwr a llenor

Enw: Robert Holland
Dyddiad geni: 1557
Dyddiad marw: 1622
Priod: Joan Holland (née Meyler)
Rhiant: Jane Holland (née Conway)
Rhiant: Hugh Gwyn Holland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghonwy, yn drydydd mab Huw Holland a Jane, merch Huw Conwy o Fryneurin (ymaelododd o Goleg Clare yn 1577; B.A., Coleg Magdalene, Caergrawnt; M.A., Coleg Iesu, 1581). Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor, ac yn offeiriad yn Ely, Ebrill 1580. Bu'n gurad Weston Colville, sir Caergrawnt, ac yn ysgolfeistr yn Dullingham. Penodwyd ef 6 Tachwedd 1591 yn rheithor Prendergast, Sir Benfro, yn rheithor Robeston West yn 1612, ac yn rheithor Llanddowror. Cyhoeddodd, 1574, The Holie Historie of our Lord and Saviour Jesus Christ's Nativitie, Life, Actes, &c.; Dau Gymro yn Taring yn bell o'u Gwlad, c. 1595; Sail Crefydd Gristionogol, c. 1600, sef cyfieithiad o Gatecism Mr. William Perkins; Darmerth neu Arlwy i Weddi, c. 1600, ac yn 1604 cyfieithodd, gyda help George Owen Harry, ddarn o Basilikon Doron By James I. Bu farw 1622. (Gweler Holland (Teuluoedd) (2). ]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

HOLLAND, ROBERT (1556/7 - 1622?), clerigwr, awdur, a chyfieithydd

Ganwyd yng Nghonwy (bedyddiwyd yno 18 Ionawr 1556/7), yn 3ydd mab i Hugh Gwyn Holland. Ymaelododd yng Nghaergrawnt o goleg Clare, Pasg 1577, graddiodd o goleg Magdalen yn 1577/1578, a chymerth M.A. o goleg Iesu yn 1581. Urddwyd ef yn ddiacon yn Ely yn Ebrill 1580, ac ar 15 Ionawr 1580/1 yn offeiriad ym Mangor ar 'deitl' a roddwyd gan ei dad; trwyddedwyd ef yn gurad yn Weston Colville, ac yr oedd hefyd yn ysgolfeistr Dullingham ger Newmarket. Nid yw'n hawdd dyddio ei benodiadau yng Nghymru (gan fod dogfennau'r plwyfi ar goll), ond y mae Stephen Hughes (yn 1677) a Moses Williams yn ei alw'n offeiriad Llanddowror - cyn 1595, mae'n debyg. Drachefn, er nad oes gan y rhestrau o offeiriad Sir Benfro yn y West Wales Records unrhyw gyfeiriad at Holland, y mae'r Index of Parish Clergy gan Foster (seiliedig ar recordiau yn y P.R.O.) yn nodi ei sefydlu yn Prendergast ar 6 Tachwedd 1591 (y mae gan West Wales Records offeiriad arall yno yn 1608), yng Nghastell Gwalchmai ar 5 Mawrth 1607/8, a chyda hynny yn Robeston West yn 1612. Gellid meddwl iddo farw yn 1622 - enwir offeiriad arall yn Robeston yn 1622 gan Foster , a chan West Wales Records ar 15 Tachwedd 1622 yng Nghastell Gwalchmai. Ymbriododd Holland â Joan Meyler o Hwlffordd; dyna gychwyn Hollandiaid Castell Gwalchmai, y gainc (2) yn yr ysgrif Teuluoedd Holland. Yr oedd William Holland yn un o'i ddisgynyddion.

Cyhoeddodd Holland o leiaf chwech o lyfrau: (1) The Holie Historie of our Lord (etc.), 1592, aralleiriad mydryddol o'r hanes sydd yn yr Efengylau; (2) Dau Gymro yn taring yn bell o'u gwlad, ymddiddan yn erbyn dewiniaid a chonsurwyr, dyddiedig tua 1595 fel y credir, ond na wyddom am unrhyw argr. ohono cyn adargr. Stephen Hughes ar ddiwedd ei argr. o Cannwyll Y Cymru, 1681; (3) cyfieithiad o lyfr William Perkins (gweler yn y D.N.B.) An Exposition of the Lord's Prayer - rhestrwyd y cyfieithiad yn Stationers' Hall, 25 Mehefin 1599, ond heb deitl, ac unwaith eto ni wyddys am gopi ohono cyn adargr. diwygiedig Stephen Hughes (1677), Agoriad byrr ar Weddi'r Arglwydd, yn ei Cyfarwydd-deb i'r Anghyf-arwydd; (4) Llyfr o'r enw Darmerth, neu Arlwy i Weddi, a dywed Moses Williams yn 1717, i Holland ei gyhoeddi yn Rhydychen - ni chredir heddiw mai'r un llyfr yw hwn a'r rhif (3) uchod; (5) cyfieithiad o gatecism Perkins, The Foundation of Xtian Religion - hwn hefyd (dan y teitl Catechism Mr. Perkins) wedi ei adargr. gan Stephen Hughes (1672), a ddywed i Holland ei gyfieithu 'tua 70 mlynedd yn ôl'; (6) Basilikon Doron, 1604, cyfieithiad o lyfr y brenin Iago I, gan Holland gyda help George Owen Harry - bwriedid i hwn fod yn rhan gyntaf llyfr a oedd hefyd i gynnwys y Genealogy of the High and Mighty Monarch, ond cyhoeddodd Harry hwnnw ar ei ben ei hunan yn yr un flwyddyn, gyda llythyr cyflwyniad gan Holland.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

    Ffynonellau

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families ( 1914 ), 341
  • Conway Parish Register
  • Venn, Alumni Cantabrigienses
  • A. Ivor Pryce, The Diocese of Bangor in the sixteenth century being a digest of the registers of the bishops, A.D. 1512-1646 ( 1923 )
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 273-4, a hefyd 172, 181, 207, 211, 223, 230
  • gwybodaeth a gafwyd gan Adran y Llyfrau yn Ll.G.C.,
  • a chan Mr. Walter Morgan o'r Llyfrgell

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.