HOLLAND, WILLIAM (1711 - 1761), Morafiad a Methodist cynnar

Enw: William Holland
Dyddiad geni: 1711
Dyddiad marw: 1761
Priod: Elizabeth Holland (née Delamotte)
Rhiant: Nicholas Holland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Morafiad a Methodist cynnar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Hwlffordd 16 Ionawr 1711, yn fab i Nicholas Holland; cangen o Holandiaid Conwy oedd Holandiaid Walwyn's Castle a Hwlffordd (gweler dan Holland, Teuluoedd (2)); yr oedd Nicholas Holland yn or-or-wŷr i Robert Holland, rheithor Prendergast, 3ydd mab Hugh Gwyn Holland o Gonwy. Yn ôl traddodiad Morafaidd bu William Holland yn ysgol ramadeg Hwlffordd ar yr un pryd â'i gyfoed John Gambold; nid ymddengys ei fod yn medru Cymraeg. Cyn 1732 yr oedd yn Llundain, a chanddo fusnes gweddol helaeth fel paentiwr, yn Basinghall Street. Ymroes i grefydd, a mynychai'r seiat a gedwid ar y dechrau yn nhŷ James Hutton ac wedyn yn Aldersgate Street a Fetter Lane, cyn yr ymwahaniad rhwng Wesley a'r Morafiaid. Ymddengys yn bur sicr mai Hutton oedd y gŵr a ddarllenodd rannau o esboniad Luther ar y Galatiaid, yng nghlyw John Wesley, ar 14 Mai 1738 - y digwyddiad a ystyriai Wesley 'n achlysur ei 'droedigaeth.' Ond at y Morafiaid yr oedd tynfa Holland. Mynnodd sicrwydd ganddynt (1741) y gellid perthyn i'r Brodyr heb droi ei gefn ar Eglwys Loegr; yna, gwerthodd ei fusnes a chymerth ei neilltuo'n 'llafurwr' Morafaidd. Pan sefydlwyd cynulleidfa (= eglwys) swyddogol y Brodyr yn Fetter Lane (30 Hydref 1742), enw Holland oedd y blaenaf ar restr yr aelodau; yr oedd yn un o ddau 'stiward' y gynulleidfa, ac yn ' henuriad ' yn 1743, penododd y Brodyr ef yn ' ohebydd dros Gymru '; yn yr un flwyddyn bu'n cenhadu yn sir Efrog; yn 1745 aeth i'r Almaen. Ar ei ddychweliad, anfonwyd ef ar daith i Ddeheudir Cymru, mor bell â Sir Benfro; bwriodd o Dachwedd 1746 hyd Chwefror 1747 ar y daith hon. Ond yr oedd ers tua 1745 wedi bod yn anesmwytho yn herwydd y duedd gynyddol (fel y tybiai ef) yn y Brodyr i ddatblygu'n enwad, ac yntau'n Eglwyswr cydwybodol. Yn Nhachwedd 1747 diswyddwyd ef o'i hawl i 'lafurio,' a dychwelodd i'w fusnes fel paentiwr; ychydig wedyn (a chwyna'r Brodyr yn erwin am hyn) aeth drosodd at John Wesley. Bu farw yn Llundain, 23 Chwefror 1761. Yr oedd yn briod (1741) ag Elizabeth Delamotte, ferch Thomas Delamotte a modryb i wraig gyntaf David Mathias; y mae yng nghronfa Fetter Lane lythyrau a hunangofiant o'i heiddo hi. Y mae yno hefyd adroddiad hynod ddiddorol gan William Holland ar gyflwr crefydd yng Nghymru rhwng 1735 a 1747, a dyddlyfr (anghyflawn) o'i daith yn y Deheudir yn 1746-7; argraffwyd y ddwy ddogfen werthfawr hyn gan Miss Elnith R. Griffiths yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xvi, 3, 4; xvii, 1, 3.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.