Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HOMFRAY (TEULU), Penydarren , Merthyr Tydfil , meistri gweithydd haearn , etc.



FRANCIS HOMFRAY ( 1726 - 1798 ),

Wollaston Hall , swydd Worcester . Wedi iddo grynhoi cryn gyfoeth fel meistr gweithydd haearn yn swyddi Stafford a Worcester , a chan fod ganddo ddau fab egnïol a galluog — Jeremiah a Samuel , hwythau hefyd yn gyfarwydd â'r diwydiant haearn — ceisiodd Francis Homfray le arall y gallai dyfalbarhad ac ysbryd anturiaethus ei feibion ddatblygu ynddo, a chymerodd gan Anthony Bacon , Cyfarthfa [q.v.] , brydles ar waith lle yr oeddid yn tyllu gynnau mawr, a lle yr oedd ffwrndri, ffwrneisiau, etc. ( Medi 1782 ). Cyrhaeddodd y meibion, gan ddwyn gyda hwynt weithwyr profiadol o ganolbarth Lloegr , ac aeth popeth yn ei flaen yn burion am gyfnod, a llwyddodd yr anturiaeth. Oherwydd iddynt gweryla ag Anthony Bacon , fodd bynnag, trosglwyddasant y brydles i David Tanner yn 1784 . Yn yr un flwyddyn cymerodd y brodyr brydles ar ddarn o dir ag ynddo beth o'r mwyn haearn mwyaf cyfoethog yn yr ardaloedd hynny; gyda chymorth arian a chyngor eu tad, a help eu brawd THOMAS fel partner, adeiladasant ffwrnais ac adeiladau angenrheidiol eraill yn Penydarren , ar lan yr afon Morlais . Yn y gwaith hwn buont am flynyddoedd yn cynhyrchu llawer o haearn , a hwnnw o'r ansawdd gorau. Adeiladwyd plasty — Penydarren House — ar lan arall yr afon at wasanaeth y partneriaid.

Eithr daeth i ran y brodyr lawer o anawsterau ac o anhwylustod. Bychan oedd y ‘cymeriad’ i gyd o'i gymharu â'r darn helaeth o'r wlad yr oedd gweithydd Dowlais arno. Peth arall, gan fod gwaith Dowlais yn uwch i fyny afon Morlais , a oedd yn rhoddi dŵr i'r ddau waith, a chan ei fod yn anturiaeth hŷn na Penydarren , efe a oedd yn medru defnyddio dŵr yr afon yn gyntaf — ac yr oedd hyn yn fater o bwys mawr mewn cyfnod o sychter. Ychydig o lo hefyd a oedd gan waith Penydarren , ac felly bu raid cymryd lês glo gan waith Dowlais . Mewn un man yr oedd cwmni Dowlais yn codi glo a'r brodyr Homfray yn codi mwyn haearn . Y canlyniad fu cwerylon ac ymgyfreithio, a phartneriaid Penydarren yn colli'r dydd, fynychaf, yn yr ymgyfreithio.

Wedi llawer blwyddyn o gydweithio, penderfynodd y ddau frawd, Jeremiah a Samuel , cyfarwyddwyr-mewn-gofal gwaith Penydarren , chwilio am fan arall y gallent wario eu hynni ynddo.



Cychwynodd JEREMIAH HOMFRAY ( 1759 - 1833 ), trydydd mab Francis Homfray , a'r hynaf o'r ddau bartner yn Penydarren , waith haearn Ebbw Vale ; yr oedd dau ddyn arall gydag ef yn y cychwyn hwn. Daeth y gwaith yn enwog. Parhaodd cyswllt Jeremiah â gwaith Penydarren , eithr gadawodd ei gyfran ef yn y gwaith o reoli i'w frawd Samuel .

Priododd Jeremiah , yn 1787 , Mary , merch John Richards , Llandaff , a bu'n byw am flynyddoedd lawer yn Llandaff House . Ymhen ychydig flynyddoedd achwynodd oblegid y modd unbenaethol yr oedd ei frawd Samuel yn gofalu am y gwaith yn Penydarren ac aeth yn gweryl rhyngddynt ( 1796 ). Tua'r un adeg gadawodd Jeremiah waith Ebbw Vale — gwaith y bu ef yn ei berchenogi'n gyfangwbl am rai misoedd hyd nes y daeth y Mri. Harford, Partridge & Co. yno fel rheolwyr , gan ei gyflogi ef fel gofalwr cyffredinol y gwaith.

Yn Abernant , yn nyffryn Aberdâr , y clywir sôn am Jeremiah nesaf. Gyda gŵr o'r enw Birch , peiriannydd profiadol, dechreuodd drefnu prydlesoedd ar diroedd mwnawl yn Abernant , Cwmbach , a Rhigos ( 1800 ) a'u trosglwyddo i'r Mri. Tappenden . Erbyn 1803 yr oedd yn bartner yng ngwaith haearn Hirwaun , eithr gadawodd y maes hwn yn fuan. Dywedwyd amdano ‘ei fod yn anturiaethwr diwyd yn niwydiant haearn De Cymru — yn trefnu cael prydlesoedd, yn ceisio partneriaid, ac yna, wedi cael y gweithydd ar waith, yn ymnelltuo… ’ Yr oedd yn derbyn blwydd-dâl o £2,500 (i'w dalu iddo tra byddai byw) — o Benydarren , mae'n debyg — a swm hefyd o waith Abernant . Ond gan fod iddo deulu mawr ac yntau'n byw mewn steil gostus (yn enwedig tra bu'n siryf Morgannwg yn 1809-10 — bu hefyd yn gweithredu fel siryf yn 1810-1 ) — a'i fod hefyd yn cymryd prydlesoedd drudion ar diroedd glo a ffermydd yn ardal Pontypridd , ni bu'n hir cyn iddi fod yn gyfyng arno mewn ystyr ariannol. Yn y flwyddyn 1813 gwnaethpwyd ef yn fethdalwr; disgrifir ef yn yr adroddiad fel ‘ Sir Jeremiah Homfray , Kt. , of Cwm Rhondda , coal-merchant , dealer , and chapman .’ Fis Tachwedd y flwyddyn honno gwerthwyd ei gartref yn y Rhondda ynghyd â'i gynnwys, ac aeth yntau dros y môr i Boulogne er mwyn osgoi talu holl ofynion ei echwynwyr ac i fyw ar yr hyn a oedd yn weddill ganddo; yno y bu ei wraig f. yn 1830 , ac yntau yn 1833 , ac yno y'u claddwyd.

Prynodd JOHN HOMFRAY , ei fab, gastell Penilîn (‘Penlline’) .



Daeth SAMUEL HOMFRAY (bu f. 1822 ), brawd iau Jeremiah , yn unig reolwr gwaith llewyrchus Penydarren wedi'r flwyddyn 1789 . Tua'r flwyddyn 1793 darganfu'r modd i wneuthur y ‘finers metal’ — peth pwysig yng ngwneuthuriad haearn bar — trwy wella ansawdd ac ychwanegu at faint y swm a wneid. Yr oedd yn un o arloeswyr y Glamorgan Canal , a brofodd yn ddull mor gyfleus o gario'r haearn gwneuthuredig trwm o'i gymharu â'r hen ddull o'i gludo ar gefnau mulod a cheffylau. Agorwyd y gamlas yn 1795 ; costiodd £103,000 a chyfrannodd Samuel Homfray £40,000. Wedi hynny bu'n un o brif gefnogwyr y mudiad i gael ffordd dram o Benydarren i Navigation ( Abercynon yn awr), pellter o naw milltir. Ar hyd hon y llwyddodd Richard Trevithick i wneuthur yr hyn a gyfrifid yn amhosibl — peri cludo pum wagen yn cario 10 tunell o haearn a 70 o ddynion yn ôl cyflymdra o bum milltir yr awr. Dyma'r peiriant ager cyntaf a redodd ar ffordd haearn; yr oedd bet o £1,050 rhwng Homfray a Richard Crawshay ar yr amgylchiad ( 21 Chwefror 1804 ). Homfray oedd prif ysgogydd y cyngaws ym mrawdlys Henffordd ( 1795 ) a ddygwyd gan wŷr y comin yn erbyn y Dowlais Company ; y diffynyddion a enillodd. Gorfu iddo dalu £300 o iawn ar ôl cyngaws athrod a ddug William Taitt (cwmni Dowlais ) yn ei erbyn yn 1807 . Yn 1811 , ym mrawdlys Henffordd , dug Homfray a'i bartneriaid (yng ngwaith haearn Penydarren ) gyngaws yn erbyn cwmni Dowlais gan achwyn arnynt eu bod yn rhwystro i afon Morlais lifo trwy fwrw iddi weddillion tanau, etc.

Priododd Samuel Homfray â Jane , merch Syr Charles Gould Morgan , y barwnig 1af , Tredegar Park , a gwnaeth hyn yn bosibl iddo gael prydles ar dir mwnawl gwerthfawr yn Tredegar — mewn cyswllt â Richard Fothergill a Matthew Monkhouse ( 1800 ). Yma eto, megis a gwnaeth ei frawd yn Ebbw Vale , cafodd gyfle i roi ei ffordd ei hun i'r ynni corff a meddwl yr oedd ganddo gymaint ohono trwy sefydlu gwaith haearn Tredegar . Llwyddodd yr anturiaeth hon gymaint nes bod y Monmouthshire Canal yn 1809 yn cludo 9,105 tunell o haearn o'r gwaith — mwy o lawer nag o unrhyw ddwsin o'r gweithydd eraill yn sir Fynwy heblaw Blaenavon .

Cyhoeddodd Homfray yn 1806 apêl am bleidleisiau etholwyr seneddol sir Frycheiniog eithr tynnodd ei enw'n ôl cyn diwrnod yr etholiad. Bu'n siryf sir Fynwy yn 1813 ; ym mis Mehefin 1818 fe'i hetholwyd yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Stafford . Bu f. 22 Mai 1822 yn Llundain , a dygwyd ei gorff i Bassaleg i'w gladdu.

Bu ei fab hynaf, SAMUEL HOMFRAY , a aned 7 Rhagfyr 1795 ac a fu f. 16 Tachwedd 1882 , yn siryf sir Fynwy , 1841 , ac yn aldramon a maer Casnewydd-ar-Wysg , 1854-5 .

Ffynonellau:

  • The Cambrian , Chwefror 1804 , 3 Medi 1808 , 28 Hydref 1809 ;
  • The Times , 19 Rhagfyr 1882 ;
  • Iron , xx, 530;
  • cofgolofn ym mynwent eglwys Basaleg, a chofrestrau claddu yno;
  • Llawysgrif David Jones yn Llyfrgell Caerdydd ;
  • Western Mail , 23 Mai 1877 , 12 Hydref 1946 ;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54