HOPKIN
,
LEWIS
(
c.
1708
-
1771
),
bardd
,
mab
Lewis
Hopkin
o
Lanbedr-ar-fynydd
ym
Morgannwg
, un o ddisgynyddion y
cwndidwr
,
Hopcyn Tomas
Phylip
o
Gelli'r-fid
. Dysgodd grefft
saer coed
, ac yr oedd yn feistr ar lawer o grefftau eraill. Pan oedd yn ŵr ifanc, symudodd i blwyf
Llandyfodwg
, ac yno, yn
Hendre Ifan Goch
, y bu ei gartref hyd ei farw yn
1771
. Troes yn
Anghydffurfiwr
, ac yr oedd yn aelod (ac yn
ddiacon
, yn ôl rhai) yng
nghapel y Cymer
. Dywaid ei fab y byddai'n
cynnal gwasanaethau yn nhai ffermydd
y Blaenau
, a bod ganddo bulpud a ddefnyddiai with bregethu yn yr ysgubor yn
Hendre Ifan Goch
. Yr oedd yn ŵr pwysig yng nghylchoedd
Anghydffurfiol
y Blaenau
, a bu ei fab,
Lewis
, yn
weinidog
ar
eglwys Annibynnol Bromyard
yn
sir Henffordd
. Ond yr oedd hefyd yn
ffigur amlwg yn yr adfywiad llenyddol
a welwyd ym
Morgannwg
yn
hanner cyntaf y 18fed g.
Ymroes i
feistroli celfyddyd cerdd dafod
, ac i
drefnu eisteddfodau barddol
tebyg i'r rhai a gynhelid yn y Gogledd. Gyrrodd rai o'i gynhyrchion i'r cylchgrawn,
Trysorfa Gwybodaeth
,
1770
, ac yn
1813
cyhoeddodd ei fab-yng-nghyfraith,
John
Miles
, gasgliad o'i weithiau prydyddol, a rhoi iddo'r teitl;
Y Fel Gafod
. Nid yw'n
fardd
mawr, ond dengys ei waith ôl yr ymdrech a wnaethai i astudio'r iaith, ac i
feistroli'r gynghanedd a'r pedwar mesur ar hugain
. Ef, yn ddiamau, oedd y gŵr galluocaf a gysylltir â'r adfywiad hwn, a'r un a gafodd fwyaf o ddylanwad ar fywyd llenyddol
Morgannwg
yn yr oes honno. Ac ef oedd
athro barddol
Edward
Evan
[q.v.]
, a chydnebydd
‘
Iolo Morganwg
’
ei fod yn un o'r rhai a fuasai'n ei hyfforddi. Yr oedd yn ŵr tra diwylliedig. Mynnir ei fod yn dra chyfarwydd â llenyddiaeth
Saesneg
y
18fed g.
, ac yr oedd ganddo lyfrau
Lladin
a
Ffrangeg
yn ei lyfrgell. Claddwyd ef yn
Llandyfodwg
, a chyhoeddodd
‘
Iolo Morganwg
’
farwnad iddo yn
1772
, o dan y teitl,
Dagrau yr Awen
.
Llyfryddiaeth:
-
Hopkiniaid Morganwg
(‘’): , 1909
,
1909
, 70-148;
-
G. J. Williams
,
Traddodiad Llenyddol Morgannwg
, 1948
,
1948
, 231-6, 282-9.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd.