HOYLE, WILLIAM EVANS (1855 - 1926), cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Enw: William Evans Hoyle
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1926
Rhiant: William Jennings Hoyle
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 28 Ionawr 1855 ym Manceinion, yn fab i William Jennings Hoyle. Addysgwyd ef yn Owens College, ac yng Ngholeg Christ Church, Rhydychen (M.A., D.Sc.); yr oedd hefyd yn M.R.C.S. Bu'n gyfarwyddwr Amgueddfa Manceinion, 1889-1909, ac yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, lle y mae darlun olew ohono, o 1909 hyd ei ymddeoliad yn 1924. Bu farw ym Mhorthcawl, 7 Chwefror 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.