HUGHES
,
ANNIE HARRIET
(‘
Gwyneth Vaughan
’;
1852
-
1910
),
llenor
;
g. yn
Bryn y Felin
,
Talsarnau
,
Meirionnydd
, merch
Bennet
Jones
,
melinydd
, a'i haddysgu yn
ysgol Llandecwyn
. Priododd,
1876
,
John Hughes
Jones
,
meddyg
o
Glwt y Bont
,
Arfon
, ond rhoes heibio'r cyfenw ‘Jones.’ Bu'n byw yn
Llundain
,
Treherbert
, a
Clwt y Bont
, nes marw ei gŵr yn
1902
. Symudodd i
Fangor
, ac er ei thloted rhoes yr addysg orau i'w phedwar plentyn. Yn
1893-6
sefydlodd 143 cangen o'r ‘
British Women's Temperance Association
,’ bu'n
ysgrifennydd mygedol
y ‘
Welsh Union of Women's Liberal Association
’ am 10 mlynedd, yn un o sefydlwyr ‘
Undeb y Ddraig Goch
’ a ‘
Cymru Fydd
,’ ac yn
is-lywydd
‘
An Comunn Gaedhealach
’
yr Alban
yn
1903
. Hi oedd yr unig ferch ar
fwrdd gwarcheidwaid Caernarfon
a
chyngor dosbarth Gwyrfai
,
1894-1901
. Bu f.
25 Ebrill 1910
ym
Mhwllheli
, a'i chladdu yn
Llanfihangel y Traethau
29 Ebrill
. Ymhlith ei gweithiau y mae pedair nofel, (1)
O Gorlannau'r Defaid
,
1905
; (2)
Plant y Gorthrwm
,
1908
; (3)
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt
(yn
Y Brython
,
1907-8
), (4)
Troad y Rhod
(yn
Y Brython
,
1909
) (nas gorffennwyd).
Golygodd
argraffiadau
Cymraeg
o dri o weithiau
Henry
Drummond
, (1)
Y Pennaf Peth yn y Byd
, (2)
Y Ddinas heb ynddi Sylfeini
, a (3) ‘
Program Cristnogaeth
’ (nis cyhoeddwyd). Ceir llawer o'i gwaith, yn rhyddiaith a barddoniaeth, yn
Cymru (O.M.E.)
,
Yr Haul
,
Perl y Plant
,
Cymru'r Plant
,
Y Genhinen
,
Papur Pawb
,
Y Cymro
,
Celtia
,
Celtic Review
,
Young Wales
, etc., o tua
1897
ymlaen a bu'n
golygu
, ‘
Colofn y Merched
’ yn
Yr Eryr
,
1894-5
,
Y Cymro
,
1906-7
, a'r
Welsh Weekly
,
1892
.
Awdur:
Y Parch. Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn /
Aberystwyth