HUGHES, JOHN HENRY ('Ieuan o Leyn '; 1814 - 1893), gweinidog a bardd

Enw: John Henry Hughes
Ffugenw: Ieuan O Leyn
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd yn Ty'n-y-pwll, Llaniestyn, Sir Gaernarfon, 11 Hydref 1814. Cafodd addysg yn ysgol Botwnnog, a bu am ysbaid yn athro cynorthwyol yn yr ysgol a gadwai Arthur Jones ym Mangor. Yna aeth i Goleg Aberhonddu, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yn Llangollen yn 1843. Yn 1847 aeth yn weinidog ar eglwys Gynulleidfaol Demerara, British Guiana. Bu raid iddo ddychwelyd oddi yno oherwydd afiechyd ei wraig. Yna bu'n weinidog yn West Hartlepool, Horsley-upon-Tyne, Newent, a'r Cefn Mawr. Bu farw 7 Mawrth 1893 yn Wrecsam. Ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth rydd, a daeth yn adnabyddus iawn yn ystod ei oes fel awdur y gerdd ' Beth sy'n hardd? ' Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau Saesneg, The Hand that Saves, and other Sermons, yn 1895.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.