HUGHES, HENRY (1841 - 1924), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a hanesydd

Enw: Henry Hughes
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1924
Rhiant: Ann Hughes
Rhiant: Owen Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Morris Thomas

Ganwyd 23 Ebrill 1841 yng Nghefn Isa, Rhoslan, Llanystumdwy, yr ieuengaf o naw o blant Owen ac Ann Hughes. Bu ei dad farw cyn ei eni. Symudodd y teulu i Borthmadog a chafodd ei addysg fore yn ysgol Frutanaidd Pont-ynys-galch. Dilynodd ei alwedigaeth fel gwneuthurwr hwyliau llongau nes bod yn 25 oed, pryd y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol Clynnog (1866-7) a Choleg y Bala (1867-71), ac ordeinwyd ef yn 1873. Yn 1872 galwyd ef i fugeilio eglwysi Brynengan, Bryncir, a Garndolbenmaen. Ymhen saith mlynedd rhoddodd yr olaf i fyny ond bu'n gofalu am y ddwy arall am 45 mlynedd.

Dechreuodd yn fore ymddiddori yn hanes ei gyfundeb a phenodwyd ef i ysgrifennu hanes Methodistiaid Llŷn ac Eifionydd. Er iddo dreulio oes i gasglu defnyddiau nid ysgrifennodd yr hanes, ond ceir ffrwyth ei ymchwil mewn ysgrifau yn Y Traethodydd, Y Drysorfa, Cymru (O.M.E.), Y Geninen, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddodd hefyd y llyfrau canlynol: (1) Hanes Cyfarfod Ysgolion ac Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Eifionydd (Caernarfon, 1886); Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig - Cyfieithiad o Vindication T. Charles (Caernarfon, 1894); (3) Robert Dafydd, Brynengan (Caernarfon, 1895); (4) Trefecca, Llangeitho a'r Bala (Caernarfon, 1896); (5) Owen Owens, Cors-y-wlad (Dolgelley, 1898); (6) Hanes Diwygiadau Crefyddol Cymru (Caernarfon, 1906); (7) Adgofion am y diweddar Barch. John Williams, Llecheiddior, gan Richard Eames a Henry Hughes (Bangor, 1885). Yr oedd yn gryn awdurdod hefyd ar hanes hen deuluoedd sir Gaernarfon.

Bu farw 13 Awst 1924.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.