Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , HUGH (‘ Cadfan Gwynedd ’ neu ‘ Hughes Cadfan ’; 1824 - 1898 ), un o'r arloeswyr yn Patagonia ;

g. 20 Awst 1824 ym Môn , yn hynaf o 12 o blant. Gweithiai fel saer coed yng Nghaernarfon yn 1850 , symudodd i Lerpwl yn 1857 , a daeth yn un o brif arweinwyr y mudiad gwladfaol . Traddododd ddarlith, a'i chyhoeddi fel Llawlyfr y Wladfa Gymreig yn 1861 . Mentrodd i'r Wladfa gyda'r fintai gyntaf yn 1865 , daeth yn aelod o'r cyngor yno, yn ustus heddwch , ac yn llywydd y sefydliad yn 1875 . Mabwysiadodd y ffugenw ‘ Cadfan Gwynedd ,’ ac adwaenid ef yn y Wladfa fel ‘ Hughes Cadfan .’ Bu f. 7 Mawrth 1898 .

Ffynonellau:

  • R. Bryn Williams , Cymry Patagonia , Aberystwyth, 1942 ;
  • Rhyddiaith y Wladfa , Dinbych Gwasg Gee, 1949 .

Awdur:

Y Parchedig Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn / Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54