HUGHES, JOHN (c. 1790 - 1869), cerddor

Enw: John Hughes
Dyddiad geni: c. 1790
Dyddiad marw: 1869
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd John Hughes yn Ninbych c. 1790. Gwasanaethai yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam, ym more ei oes. Hoffai gerddoriaeth, dysgodd ganu amryw offerynnau cerdd, a phenodwyd ef yn arweinydd seindorf catrawd filwrol sir Ddinbych. Yn eisteddfod Wrecsam, 1820, enillodd wobr am 'Yr amrywiaeth gorau o un o Geingciau Cymru.' Yn eisteddfod y Fenni, 1838, enillodd y wobr a thlws am yr erddygan Gymreig orau. Yn 1840 yn eisteddfod Lerpwl dyfarnwyd ef yn orau am amrywiaethau ar yr alaw 'Dynwared yr Eos.' Ceir 'Llanciau Eryri' o'i waith wedi ei gyhoeddi yn y Gyfres Gerddorol.

Bu’n athro cerdd yn Wrecsam, a bu farw yno ar 10 Chwefror 1869 yn 79 oed.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.