HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur

Enw: John Hughes
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1860
Plentyn: Catherine Tudor Roberts (née Hughes)
Rhiant: Mary Hughes
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Adwy'r Clawdd, 11 Chwefror 1796, yn fab i Hugh (saer coed) a Mary Hughes, ac yn ŵyr i Richard Hughes o'r Sarffle, Llanarmon Dyffryn Ceiriog; yr oedd felly'n frawd i Richard Hughes, yr argraffydd yn Wrecsam, ac yn gyfyrder i John Ceiriog Hughes.

Dechreuodd bregethu yn 1813, ac yn 1815 aeth i gadw ysgol mewn gwahanol fannau; yn 1819 agorodd ysgol yn Wrecsam, y bu iddi gryn enw, oblegid heblaw addysgu plant, derbyniai John Hughes wŷr hŷn a wynebai ar y weinidogaeth, a bu amryw o bregethwyr blaenllaw y Methodistiaid Calfinaidd (megis Roger Edwards) dan ei addysg - nid oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd athrofa swyddogol ar y pryd. Daliodd at yr ysgol hon hyd 1834.

Yn y cyfamser, yr oedd wedi tyfu'n bregethwr o fri, ond nid ordeiniwyd ef cyn 1829, am fod Uchel-Galfiniaid eithafol ei gyfarfod misol yn barnu nad oedd yn iach yn y ffydd. Prif amcan ei symud i fasnach yn Adwy'r Clawdd yn 1834 ac wedyn i Lerpwl yn 1838 oedd cael mwy o ryddid i bregethu; ac yn fuan wedi symud i Lerpwl rhyddhawyd ef i fugeilio Methodistiaid y ddinas, gyda Henry Rees. Bu farw yn Abergele, 8 Awst 1860.

Sgrifennodd amryw lyfrau; y pwysicaf ohonynt yw Methodistiaeth Cymru (tair cyfrol, 1851-6), llyfr go hynod pan ystyriwn ei gyfnod, a llyfr sydd heddiw eto'n anhepgor ar waethaf ei ddiffygion. Yn wir, y mae John Hughes yn bwysicach dyn nag a lawn sylweddolwyd eto. Am amryw resymau, yr oedd Methodistiaeth ei deulu'n fwy ' Ymneilltuol ' nag a oedd yn gyffredin yn yr oes honno, a bu yntau'n ddylanwad mawr yn ymryddhad graddol ei enwad oddi wrth y geidwadaeth mewn byd ac eglwys a'i nodweddai gynt; yr oedd yn ddylanwad pwysig ar Henry Rees, ac yn gefn i Lewis Edwards a Roger Edwards a'u tebyg. Y mae cofiant iddo, gan Roger Edwards a John Hughes (1864).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.