HUGHES, JOHN (1827 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Hughes
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1893
Priod: Ellen Hughes (née Dew)
Rhiant: Ellen Hughes
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Owen

Ganwyd 27 Medi 1827 yn nhŷ capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llannerch-y-medd, Môn, mab i John ac Ellen Hughes. Yn 15 oed prentisiwyd ef yn grydd; bu hefyd yn gyflogydd cryddion. Dysgodd William Roberts, Amlwch, Roeg iddo. Cyflwynwyd ei achos yng nghyfarfod misol Cemaes, 20 Rhagfyr 1847, a derbyniwyd ef yng nghyfarfod misol y Garreglefn, 17 Ionawr 1848. Aeth i athrofa'r Bala, Awst 1848; yr oedd yn efrydydd ymroddgar, yn bregethwr da, a daeth i'r amlwg yn gynnar. Wedi gadael y Bala agorodd ysgol yn Llannerch-y-medd. Priododd, 5 Tachwedd 1852, Ellen Dew.

Cyn diwedd 1852 symudodd i Borthaethwy, ond heb alwad reolaidd bugail. Bu yno bum mlynedd, ar gyflog o £20 y flwyddyn. Oddeutu naw swllt a chwe cheiniog oedd cyfartaledd ei dâl Sabothol. Yn Nhachwedd 1857 galwyd ef i eglwysi Lerpwl, ac ymhen tua thair blynedd cyfyngwyd ei lafur i eglwys Rose Place, wedi hynny Fitzclarence Street. Yn 1874 ymwelodd ag America - hwyliodd ar 18 Ebrill a dychwelyd 25 Gorffennaf.

Rhoes ei gyfundeb iddo bob anrhydedd - arholwr Coleg y Bala, 1871-2; traddodi'r cyngor yn y cyfarfod ordeinio dair gwaith, 1875, 1887, 1888; llywydd y gymdeithasfa yn y Gogledd, 1871; a llywydd y gymanfa gyffredinol, 1880. Bu'n athro dros dro yng Ngholeg y Bala, 1886-7. Yn 1888 galwyd ef i eglwys Engedi, Caernarfon; bu yno agos i bum mlynedd. Pregethodd deirgwaith yn Amlwch 22 Hydref 1893, a bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon y dydd canlynol.

Ysgrifennodd yn helaethach na fawr neb, yn arbennig i gyfnodolion ei gyfundeb. Ef a ysgrifennodd y rhan helaethaf o bawb o Destament yr Ysgol Sabothol. Cyfieithodd Analogy Butler yn Gymraeg, 1859, gan ychwanegu ato ragarweiniad lled faith. Heblaw golygu rhai cyfrolau, ysgrifennodd dri llyfr: Unoliaeth y Beibl, 1866; Y Weinidogaeth, 1879; Hanes yr Athrawiaeth Gristionogol, 1883. Ei nodwedd amlycaf oedd urddas tawel meddyliwr mawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.