HUGHES, WILLIAM JOHN (1833 - 1879), cerddor ac ysgolfeistr

Enw: William John Hughes
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1879
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd Rhagfyr 1833 mewn amaethdy o'r enw Penuch-Roe, ger Llanelwy. Cafodd addysg dda, a daeth yn ysgolhaig gwych ac yn gerddor galluog. Bu'n athro mewn ysgol ramadeg yn Enniskillen, Iwerddon, am rai blynyddoedd. Symudodd oddi yno yn athro i Harleston, Norfolk, a daliai y swydd o organydd yr eglwys yno. Tua 1855 daeth i Llanrwst i gymryd gofal yr ysgol ramadeg. Wedi rhai blynyddoedd sefydlodd ysgol ramadeg yn y Rhyl, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Cyfansoddodd lawer o anthemau a thonau, a chyhoeddwyd hwynt yn Y Ceinion (' Hafrenydd '), Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee, Dinbych), Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen a Jones), Udgorn Seion (' Dewi Wyllt '), ac Aberth Moliant (Ambrose Lloyd). Trefnodd amryw o'r hen anthemau i'r Y Cerddor Cymreig, a golygodd gasgliad o donau (S. Asaph Tune Book). Cynorthwyodd John Roberts, Henllan, gyda'i gasgliad tonau, In Memoriam. Bu farw yn y Rhyl, Mehefin 1879.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.