HUGHES, THOMAS (1854 - 1928), gweinidog Wesleaidd

Enw: Thomas Hughes
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1928
Priod: Blanche Hughes (née Davies)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd 25 Hydref 1854 yn Rhuddlan. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Rhuddlan ac ysgol ramadeg Llanelwy. Derbyniwyd ef i Goleg Aberystwyth (1875), ac i'r weinidogaeth (1877), gan fynd i Goleg Diwinyddol Headingley, Leeds (1877-80). Wedi blwyddyn yn Shaftesbury, Dorset, dychwelodd i'r gwaith Cymraeg. Llafuriodd yn Widnes (1881), Pen y Groes, Caernarfon (1882), Bootle (1883), Birmingham (1884), Meifod (1886), Llanfairfechan (1887), Wrecsam (1890), Tregarth (1893), Lerpwl, cylchdaith Shaw Street (1896), Tregarth (1899), Lerpwl, Mynydd Seion (1902), Lerpwl, Shaw Street (1905), Bangor (1908), Llandudno (1911), Y Felinheli (1914), Abergele (1918), Llangefni (1921). Ymneilltuodd yn 1924, a bu farw 15 Rhagfyr 1928.

Priododd Blanche, merch Samuel Davies, cadeirydd talaith Gogledd Cymru, yn 1887. Bu'n llywydd y gymanfa Wesleaidd (1907); cadeirydd ail dalaith Gogledd Cymru (1911-24); llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Gogledd Cymru (1914-5); aelod o gyngor Coleg Prifysgol Cymru (1925-8); un o brif hyrwyddwyr Llyfr Emynau'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, 1927. Etholwyd i Gant Cyfreithiol ei gyfundeb (1910). Bu'n foddion i sefydlu cronfa i alluogi ymgeiswyr am y weinidogaeth yn ei gyfundeb i fynd i goleg prifysgol yng Nghymru.

Golygodd Y Winllan, 1894-7, Yr Eurgrawn Wesleaidd 1912-28. Cyhoeddodd Esboniad ar yr Actau; Ymneilltuaeth Eglwys Loegr; Cofiant John Evans, Eglwysbach (cyd-awdur â J. P. Roberts); ysgrif, ' Beirniadaeth y Beibl, ei Hegwyddorion Cyffredinol a'i Gwerth '; erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd; ysgrif arweiniol Llestri'r Trysor, 1914.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.