HUGHES, JOSEPH TUDOR ('Blegwryd'; 1827 - 1841), bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc.

Enw: Joseph Tudor Hughes
Ffugenw: Blegwryd
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1841
Rhiant: David Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc.
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 27 Hydref 1827, yn y Bala (?). Dywedir iddo ddangos gallu cerddorol a oedd yn wyrthiol cyn ei fod yn dair oed; yn cyrraedd ei wyth oed rhoesid y ffugenw 'Blegwryd' iddo yn eisteddfod Llannerch-y-medd, 9 Mehefin 1835. Pan oedd tua 12 oed cyhoeddwyd British Melodies, yn cynnwys alawon gyda threfniant ganddo ar gyfer y delyn a'r piano. Aeth ei dad ag ef, gyda brodyr eraill, i U.D.A. (1840), gan gynnal cyngherddau yn y White House (Washington), New York, Baltimore, Philadelphia, etc. Yr oedd 'Blegwryd' eisoes, cyn iddo adael Prydain, wedi peri syndod mawr i luoedd o bobl - rhai aelodau o'r teulu brenhinol yn eu plith - a'i gwelodd ac a'i clywodd yn perfformio.

Collodd ei fywyd trwy foddi yn afon Hudson ar 12 Mai 1841.

Brawd iddo oedd David E. Hughes, dyfeisydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.