HUGHES, WILLIAM (1798 - 1866), telynor

Enw: William Hughes
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1866
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1798 yn Llansantffraed-ym-Mechain, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn chwaraewr rhagorol ar y delyn deir-res. Enillodd y delyn arian a deg gini yn eisteddfod Caernarfon 1821. Bu yn delynor teulu yng nghastell Powys am rhyw gyfnod, a chesglir mai ef a gafodd y swydd wedi marw Thomas Blayney. Bu farw yn Lerpwl, 1866.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.