HUMPHREYS, HENRY (fl. 1819-24), telynor

Enw: Henry Humphreys
Rhiant: Edward Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

mab Edward Humphreys; trigai yn y Trallwng. Enillodd yr ail wobr yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819; yn eisteddfodau Aberhonddu, 1822, a'r Trallwng, 1824, enillodd y delyn arian. Cyfansoddodd yr alaw ' Holl ieuenctyd Cymru ' a chyhoeddodd hi yn 1824 gydag amrywiadau i'r delyn deir-res. Bu'n delynor teulu yng nghastell Powis a chesglir mai yno y bu farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.