HUW CEIRIOG
(
fl.
c.
1560-1600
),
bardd
a brodor o
sir Ddinbych
a raddiodd yn
ddisgybl disgyblaidd cerdd dafod
yn
eisteddfod Caerwys
,
1568
(
Pen. MS. 132 (59)
). Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau ysgafn i serch a natur, rhai eraill i
Simwnt
Thelwal
o
Blas y Ward
,
Sion
Salbri
o
Lyweni
(marwnad), ac un o fawl i
Blas Moelyrch
. Ceir hefyd englyn ganddo i'r eisteddfod a enwyd uchod. Cynnwys y llawysgrifau canlynol enghreifftiau o'i farddoniaeth:
B.M. Add. MS. 14894
,
Cardiff MS. 63
,
Llanst. MS. 118
,
Mostyn MS. 145
,
NLW. MSS. 6496, 8330
,
Pen. MSS. 84, 104
.
Enw
Hywel
Ceiriog
a geir yn rhestr rhai llawysgrifau o raddedigion
Caerwys
yn
1568
(e.e.
Pen. MSS. 121 (215), 144 (268)
); ceir hefyd ymryson a fu rhwng
Hywel Ceiriog
,
Wiliam
Llŷn
,
Ieuan Tew
, a
Sion
Phylip
, a'r ddau
fardd
,
Wiliam
Cynwal
a
Huw Llŷn
(
Mostyn MS. 1 (455)
,
N.L.W. MS. 675 (24b)
). Nid ydys yn sicr eto ynghylch cysylltiad y ddau enw.
Llyfryddiaeth:
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
‘
Gweirydd ap Rhys
,’
Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300–1650
.
[1885.]
;
-
William Owen Pughe
,
The Cambrian Biography
, 1803
.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni