HUW LLIFON (fl. c. 1570-1607), bardd, a chlochydd

Enw: Huw Llifon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, a chlochydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Ray Looker

Llannefydd yn sir Ddinbych. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac y mae hwn yn cynnwys englynion crefyddol, cywydd moliant i Gelynen Meifod, cywydd gofyn gown i'r bardd gan Ddafydd Holand o Ginmel, a chywydd marwnad Ffowc ap Rhobert o Feiriadog (sir Ddinbych), a fu farw yn 1607-8. Ymddengys i'r bardd fyw'n hen; ceir cyfeiriadau at ei henaint yn y ddau gywydd olaf hyn, ac hefyd yn y ddau englyn a gyfansoddodd Lewis Lloyd iddo. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.