HUW PENNANT (Syr) (fl. yn ail hanner y 15fed ganrif), offeiriad, bardd, hynafiaethydd

Enw: Huw Pennant
Rhiant: Dafydd Pennant
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, bardd, hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ray Looker

Mab Dafydd Pennant, Bychton, gerllaw Holywell, Sir y Fflint, a brawd i Thomas Pennant, abad Dinas Basing. Cadwyd peth o'i farddoniaeth, sef cywyddau brud, mewn llawysgrifau. Llawysgrif a wnaeth Syr Huw ei hun tua 1514 yw Peniarth MS 182 , yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, achau, barddoniaeth, a'i gyfieithiad i'r Gymraeg o destun Lladin Buchedd Wrsula S.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.