HUW, ROLANT (1714 - 1802), bardd

Enw: Rolant Huw
Dyddiad geni: 1714
Dyddiad marw: 1802
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

a breswyliai yn y Graeenyn (Graienyn, Greienyn) ym mhlwyf Llangywer, Sir Feirionnydd, ac a oedd hefyd yn stiward i berchnogion cyfagos y Fachddeiliog a Rhiwedog. Y mae'n bwysig fel dolen yn nhraddodiad barddol Penllyn; bu'n athro i feirdd, yn enwedig i Robert William o'r Pandy, Tre Rhiwedog (1744 - 1815). Argraffwyd peth o'i waith yn Beirdd y Bala (cywirer ' Robert Saunderson ' yn y byr-nodyn i ' William Saunderson '), ac yn Cymru (O.M.E.), i, 108-10, 197-8; ac erys rhagor mewn llawysgrifau yn N.L.W. Claddwyd yn Llangywer, 16 Rhagfyr 1802, yn 88 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.