HUW, THOMAS (fl. c. 1574-1606), bardd

Enw: Thomas Huw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

brodor, y mae'n debyg, o Ogledd Cymru. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau ac yn ei phlith gywyddau moliant i Harri Wyn o Fôn a Siôn Wyn Amhorys (Brogyntyn MS. 6 (157b); Llanstephan MS 11 (21), cywydd marwnad Rhisiart Llwyd o'r Llannerch Fawr yn Llŷn (Llanstephan MS 123 (114), cywydd i ofyn cymod ieuenctid (NLW MS 783B (128), cywydd ateb i gywydd gan Rhobert Elis (Jes. Coll. MS. 16, ii (119)), ac englynion crefyddol a gyfansoddwyd ar ddaeargryn 1574 (NLW MS 3039B (279)).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.