HUW ap RHISIART ap DAFYDD (fl. yn ail hanner y 16eg ganrif), Cefn Llanfair, Sir Gaernarfon; bardd

Enw: Huw ap Rhisiart ap Dafydd
Plentyn: Richard Hughes
Rhiant: Rhisiart ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

a thad i fardd, sef Richard Hughes (bu farw 1618). Yn NLW MS 16B (239) ceir '6 o englynion pan oedd y bardd yng ngharchar efo gwyr Llŷn yn Llundain yn amser Iarll Leister ynghylch y gwlltir' a '12 o Englynion i'r Udonwyr'; yn Glyn Davies (N.L.W.) MS. 2 (15), a NLW MS 3048D (203), ceir 'marwnad Sion Smyth.' Ceir enghreifftiau (neu gopïau) eraill o'i waith yn NLW MS 5272C (102), NLW MS 3039B (50), NLW MS 3047C (466), NLW MS 3048D (641, 644, 738); Cardiff MS. 8 (255); Cwrtmawr MS 14C (69), Cwrtmawr MS 114B (277); Wynnstay MS. 6 (143); Brogyntyn MS. 4 (59, 63). Na chymysger ef a Huw Llŷn .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.