HUW BODWRDA neu Huw ap Richard ap Siôn ap Madog o Fodwrda, Sir Gaernarfon (fl. 1566), boneddwr, bardd, a noddwr beirdd

Enw: Huw Bodwrda
Plentyn: John Wyn ap Hugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: boneddwr, bardd, a noddwr beirdd
Cartref: Fodwrda
Maes gweithgaredd: Dyngarwch; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert (Bob) Owen

Efe oedd Huw Bodwrda y 1af. Y mae ar gael ddau gywydd o'i waith yn ymgellwair ag Ieuan Dylyniwr; gwnaeth hefyd englyn yn annog y beirdd a ddeuai i'w dy i ganu i'r 'Worthyes' ar y pared yn y Tŷ Canol ym Modwrdda; y mae'n amlwg hefyd ei fod yn cadw bardd a thelynor teulu. Canodd Wiliam Llŷn farwnad ar ei ôl, a gellir casglu oddi wrthi iddo gael ei gladdu yn Ynys Enlli. Mab iddo oedd John Wyn ap Hugh a gyhuddwyd gan un Morgan ab Ieuan o fod yn fôr-leidr ar Enlli c. 1567.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.