HUXLEY, THOMAS (fl. 1765-88), argraffydd

Enw: Thomas Huxley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Elwyn Evans

Yn ôl ei dystiolaeth ei hun yr oedd yn frodor o Lanelwy. Ymsefydlodd fel argraffydd yng Nghaer a bu'n gyfrifol am argraffu nifer o lyfrau ac o faledi Cymraeg. Honnai mai ef oedd yr unig argraffydd yn y parthau hynny a ddeallai Gymraeg. Yn 1765 ac yn 1788 ceir ei enw wedi ei gysylltu ag enw W. Read.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.