HYWEL ap RHEINALLT, neu HYWEL RHEINALLT (fl. c. 1471-94), bardd

Enw: Hywel ap Rheinallt
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

y ceir swm mawr o'i waith mewn llawysgrifau. Cynnwys hwn lawer o ganu traddodiadol i aelodau teuluoedd bonheddig Gogledd Cymru, yn cynnwys rhai Ynys y Maengwyn, Coetmor, Clenennau, ac Emral; ceir cywydd ganddo i Ddafydd ab Owain, abad Ystrad Marchell. Cadwyd hefyd nifer o'i gywyddau serch a'i ymryson gyda Lewys Môn; ceir cyfeiriad ato yng nghywydd ymryson Llywelyn ap Gutun i Lewys Môn (Llanstephan MS 122 (620)). Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond y mae'n amlwg ei fod yn ŵr o Ogledd Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.