Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HYWEL DDA (bu f. 950 ), brenin a deddfwr .

Gelwid ef yn gyffredin yn ‘ Hywel Dda fab Cadell , tywysog Cymru oll,’ ac yn Brut y Tywysogion gelwir ef yn ‘ ben a moliant yr holl Frytaniaid .’ Ef oedd yr unig dywysog Cymreig a gyfenwid yn ‘Dda.’ Ganed ef tua diwedd y 9fed g. ; ni wyddys ym mha le.

Un o feibion Rhodri Mawr oedd Cadell , a rhan ddeheuol tywysogaeth ei dad a etifeddodd ef, sef Seisyllwg ( Ceredigion ac Ystrad Tywi ). Gadawodd hi i'w ddau fab, Hywel a Clydog , ac wedi marw Clydog yn y flwyddyn 920 cafodd Hywel feddiant llwyr arni. Elen ferch Llywarch ap Hyfaidd o Ddyfed oedd ei wraig, a dug hi Ddyfed yn gynhysgaeth iddo, gan mai Llywarch , yn ôl pob tebyg, oedd yr olaf o dywysogion Dyfed . Tywysog Gwynedd oedd Idwal Foel , ac y mae'n debyg bod Powys hithau yn ei feddiant. Lladdwyd Idwal gan y Saeson mewn brwydr yn y flwyddyn 942 , ac er bod ganddo feibion meddiannodd Hywel ei holl diroedd. Daeth ef felly yn ‘ frenin Cymru oll ,’ ond bod gan Forgannwg a Gwent eu brenhinoedd annibynnol.

Llwyddodd ef i gadw heddwch rhyngddo a brenhinoedd Lloegr drwy gydol ei oes drwy ymostwng iddynt. Yn 918 bu ef a Chlydog ei frawd ac Idwal Foel yn plygu glin i Edward fab Alffred Fawr , a thua 926 aeth ef ac Owain o Went i Henffordd i gydnabod awdurdod Athelstan . Ceir ei enw yn ami ar freinlenni Lloegr fel is-frenin , a diau iddo deithio i lys Wessex o bryd i'w gilydd. Yr oedd yn ddigon annibynnol, er hynny, i beri bathu ‘ceiniogau’ arian yn dwyn ei enw, a hyd y gwyddys ef oedd yr unig dywysog Cymreig a wnaeth hynny.

Un o ddigwyddiadau mawr ei fywyd oedd ei bererindod i Rufain yn 928 . Awgrymwyd mai dilyn esiampl Alffred a wnaeth yn hyn o beth, ac fe all mai gwaith y brenin hwnnw yn Lloegr a'i symbylodd i ymgymryd â gorchwyl pwysicaf ei fywyd, sef mynnu trefn a dosbarth ar amryfal arferion a chyfreithiau ei deyrnas. Diau bod ei deithiau wedi ei gadarnhau yn ei fwriad.

I chwarter olaf y 12fed g. y perthyn y llawysgrif gynharaf sydd ar gael o ‘ Gyfreithiau Hywel Dda ,’ ond tystia'r holl lawysgrifau mai trwy ei orchymyn a than ei awdurdod ef y trefnwyd hwy. Cytunant hefyd ar y cynllun a ddewisodd ef i gyflawni'r gwaith, sef gwysio chwech o gynrychiolwyr o bob cwmwd yn ei dywysogaeth i'r ‘ Ty Gwyn ar Daf yn Nyfed ’ i gymanfa fawr. (Codwyd abaty yn agos i'r fan yn ddiweddarach, a'r enw Cymraeg ar bentref Whitland yw Yr Hen Dy Gwyn .) Rhywbryd rhwng 942 a 950 y bu hyn: tua 945 , efallai.

Ni ellir gwybod yn iawn beth oedd cynnwys y llyfr cyfraith a luniwyd yn y Ty Gwyn . Gwelodd Aneurin Owen yn y 19eg g. y dylid dosbarthu'r llawysgrifau cynharaf yn dri ‘dull’ pur wahanol i'w gilydd. Tyfodd y gwahaniaeth hwn rhwng y 10fed g. a'r 12fed am na pharhaodd undod teyrnas Hywel ddim wedi ei farw ef yn y flwyddyn 950 . Bernir mai ‘ Dull Dyfed ’ (sef ‘ Llyfr Blegywryd ,’ yn ôl dosbarthiad A. W. Wade-Evans ) sydd wedi cadw'n gywiraf gynnwys a threfn y ffurf wreiddiol. Y mae'r ‘dull’ hwn a rhai llawysgrifau eraill yn enwi Blegywryd fel y gwr a ddewiswyd gan y brenin gyda'r ‘ deuddeg lleyg doethaf o'i wyr i luniaethu ac i synhwyro iddo, ac i'w deyrnas, gyfreithiau ac arferoedd yn berffaith ac yn nesaf y gellid i'r (g)wirionedd a iawnder. ’ Dywedir ymhellach i'r brenin erchi ‘ eu hysgrifennu yn dair rhan: yn gyntaf, cyfraith ei lys beunyddiol; yr ail, cyfraith y wlad; y drydedd, arfer o bob un ohonynt. ’ Yr oedd tri ‘llyfr’ cyfraith i'w gwneud, h.y. tri chopi: ‘ un wrth ei lys beunyddiol parhaus gydag ef; arall i lys Dinefwr ; y trydydd i lys Aberffraw ; megis y caffai tair rhan Cymru , Gwynedd , Powys , Deheubarth , awdurdod cyfraith yn eu plith wrth eu rhaid yn wastad ac yn barod. Ac o gyngor y doethion hynny, rhai o'r hen gyfreithiau a gynhaliodd; eraill a wellhaodd; eraill a ddileodd yn gyfan gwbl, a gosod cyfreithiau newydd yn eu lle. ’

Rhaid priodoli rhagoriaethau'r cyfreithiau i ddoethineb ac ysgolheictod Blegywryd a'i gymheiriaid, ond teg yw credu mai delfryd Hywel ei hun oedd unoli a sefydlu'n ddosbarthus amodau bywyd y gwahanol daleithiau a unasai ef yn un deyrnas. Gorffwys ei glod ar ei waith fel deddfwr, a gellir honni mai o gyfraith Hywel , yn bennaf, y tarddodd yr ymwybod cenedlaethol ymhlith y Cymry yn yr Oesoedd Canol .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , 333-43, 354-6;
  • J. E. Lloyd , Hywel Dda penn a molyant yr holl vrytanyeit [Brut y tywysogion] 928-1928 , 1770 ;
  • J. Goronwy Edwards , Hywel Dda , 1929 ;
  • Wade-Evans , Welsh Medieval Law, being a text of the laws of Howel the Good, namely the British Museum Harleian ms. 4353 of the 13th century, with translation, introd., appendix, glossary, index, and a map , Rhydychen, 1909 ;
  • T. Lewis , A Glossary of Mediaeval Welsh Law based on upon The Black Book of Chirk , Manceinion, 1913 ;
  • T. P. Ellis , Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages , Rhydychen, 1926 ;
  • Williams a Powell , Cyfreithiau Hywel Dda yn Llyfr Blegywryd (dull Dyfed) argraffiad beirniadol ac eglurhaol , 1942 ;
  • A. Owen , Ancient Laws and Institutes of Wales . Rolls Series, arg. folio, 1841 .

Awdur:

Yr Athro Stephen Joseph Williams, D.Litt., (1896-1992), Abertawe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54