HYWEL ap RHODRI MOLWYNOG (bu farw 825), brenin Gwynedd

Enw: Hywel ap Rhodri Molwynog
Dyddiad marw: 825
Rhiant: Rhodri Molwynog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

gor-ŵyr Cadwaladr Fendigaid a'r brenin olaf ym Môn o linach Cunedda. Trosglwyddwyd gwaed Cunedda, ar farw Hywel, i linell frenhinol newydd trwy ei nith, Ethyllt (nain Rhodri Mawr), merch ei frawd Cynan (bu farw 816), gŵr y bu Hywel yn cydymgeisio ag ef yn hir am yr oruchafiaeth ym Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.