IAGO ab IDWAL ap MEURIG (bu farw 1039), brenin Gwynedd

Enw: Iago ab Idwal ap Meurig
Dyddiad marw: 1039
Plentyn: Cynan ab Iago
Rhiant: Idwal ap Meurig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

gor-wyr i Idwal Foel. Wedi i dreiswyr yn olynol gipio'r awdurdod yng Ngwynedd rhwng 986 a 1033 - gweler Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyll, Rhydderch ap Iestyn - adferwyd yr hen linach ym mherson Iago. Teyrnasiad byr o chwe mlynedd a gafodd cyn ei lofruddio ac i Gruffydd ap Llywelyn ap Seisyll gymryd ei le. Mab iddo oedd Cynan, tad Gruffydd ap Cynan, y tywysog a lwyddodd o'r diwedd i ail-sefydlu llinach Rhodri Fawr yn brif deyrn-linach yng Ngogledd Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.