IAGO ab IDWAL FOEL (fl. 942-79)

Enw: Iago ab Idwal Foel
Plentyn: Cystennin ap Iago
Plentyn: Cadwallon ab Ieuaf
Plentyn: Hywel ap Ieuaf
Rhiant: Idwal Foel
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Gyrrwyd ef o Wynedd gyda'i frawd, Ieuaf, gan Hywel Dda pan fu Idwal Foel farw, yn 942, eithr cawsant ddychwelyd pan fu Hywel farw yn 950. Dilynodd rhyfel cartrefol a gorchfygwyd Ieuaf yn 969. Carcharwyd Iago yn ei dro yn 979 gan Hywel, mab Ieuaf, a daeth Hywel yn frenin Gwynedd. Iago yw'r unig Gymro y gellir bod yn weddol sicr ei fod gyda'r isbenaethiaid eraill a blygodd lin i Edgar, yng Nghaer, yn 973 - amgylchiad a ysbrydolodd yr hanes am siwrnai orchfygol Edgar ar Ddyfrdwy. Ni wyddys ym mha flwyddyn y bu farw. Yn yr achau enwir mab iddo, Cystennin, eithr ni bu i hwnnw deulu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.