IEUAN ap GRUFFUDD LEIAF (fl. ail hanner y 15fed ganrif), bardd

Enw: Ieuan ap Gruffudd Leiaf
Plentyn: Sion Leiaf
Rhiant: Gruffudd Leiaf
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Aelod o un o deuluoedd sir Ddinbych, mab Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (19)). Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac awdlau i aelodau teulu'r Penrhyn a Nanconwy, cywyddau brud a chrefyddol, cywydd i Aberconwy, cywydd dychan i afon Llugwy am rwystro'r bardd ar ei ffordd i'r Penrhyn, ac ymryson rhyngddo a Guto'r Glyn (Gwaith Guto'r Glyn, 17, a Peniarth MS 99 (624)). Ceir ychydig o farddoniaeth ei dad, Gruffydd Leiaf, ac hefyd Syr Sion Leiaf (ei fab) a Rhobert Leiaf (ei ewythr neu ei fab) yn y llawysgrifau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.