Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN DU'R BILWG (fl. c. 1470), bardd o Forgannwg ; Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cadwyd tri chywydd diddorol o'i waith, sef Cywydd y Gown Coch, Cywydd i ofyn Llyfr y Greal gan abad Glyn Nedd (gw. Cywyddau'r Ychwanegiad, 144), ac un arall ‘i ymofyn Llywelyn Goch y Dant i wraig oedd yn nithio haidd.'

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis, Mynegai;
  • Blackwell;
  • Cymru (O.J.);
  • J. Davies, Dictionarium Duplex;
  • William Owen Pughe, Cambr. Biog.;
  • G. J. Williams Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad, 1926;
  • G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 13, 37, 38, 39, 46;
  • J. Morgan Williams, ‘The Works of some Fifteenth Century Glamorgan Bards' (traethawd M.A.) Prifysgol Cymru, 1923).

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni