IEUAN CLYWEDOG (fl. c. 1577-96), bardd;
brodor, y mae'n debyg, o ddyffryn Clywedog yn sir Drefaldwyn. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau ac yn ei phlith gywyddau traddodiadol, a gyfansoddwyd rhwng tua 1577 a 1596 i aelodau teuluoedd Cefn Digoll, Gartheryr, Mallwyd, Mathafarn, a Moelyrch; cedwir cywydd i'r brithyll hefyd. Ceir enghreifftiau o'i farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Cardiff MS. 84, Cwrtmawr MSS. 12, 21, 207, Llanst. MSS. 118, 133, 155, a Pen. MS. 87. Y mae'r dyddiadau a roir yn Blackwell, a Cymru (O.J.) dros ganrif yn rhy gynnar.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni