Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN DYFI ( 1461? - 1500 ) .

Nid oes dim ar gael ynghylch hanes bywyd y bardd hwn, ac ychydig, ysywaeth, yw'r ffeithiau a geir o'i ganu ef ei hun. Prydydd o Aberdyfi ydoedd a flodeuai tua 1490 , yn ôl Dr. John Davies o Fallwyd . Bardd serch yn anad dim ydoedd, yn canu i ferch o'r enw Anni Goch . Canodd gywydd i brofi cymaint twyll gwragedd drwy'r oesoedd, a chan amled copïau ohono mewn llawysgrifau gwelir iddo ennill cryn boblogrwydd ymhlith beirdd a chopïwyr y cyfnod. Mynnodd Gwerful Mechain [q.v.] ateb iddo â'i chabl miniog.

Ffynonellau:

  • Leslie Harris , ‘Huw Cae Llwyd ac Eraill' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1933 ).

Awdur:

Leslie Harries, M.A., (1901-88), Llaneurgain, Sir y Fflint

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54