IEUAN FYCHAN ap IEUAN ab ADDA (bu farw c. 1458), uchelwr a bardd

Enw: Ieuan Fychan ap Ieuan ab Adda
Dyddiad marw: c. 1458
Priod: Angharad wraig Ieuan Fychan
Plentyn: Howel ap Ieuan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr a bardd
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Llewelyn Davies

Ceir llawer o fanylion amdano yn llyfr Mostyn a T. Allen Glenn, History of the Family of Mostyn of Mostyn (Llundain, 1925). Yn Pengwern, sir Ddinbych, yr oedd yn byw cyn iddo briodi Angharad, aeres Mostyn. Yr oedd yn gyfeillgar â rhai o'r beirdd, e.e. Guto'r Glyn a Maredudd ap Rhys, a cheir ychydig o'i waith ef ei hun yn y llawysgrifau, e.e. yr 'ymryson' rhyngddo â Maredudd ap Rhys. Awgrymir gan arglwydd Mostyn a T. A. Glenn iddo gael ei addysg yn abaty Valle Crucis ac, efallai, yn un o'r ddwy brifysgol yn Lloegr. Bu'n ysgwier yng ngwasanaeth Thomas Fitz Alan, iarll Arundel ac arglwydd y Waun (a Nanheudwy); bu hefyd yn ymladd yn Ffrainc. Fe'i dilynwyd ym Mostyn c. 1457 neu 1458 gan ei fab Howel ap Ieuan, tad Richard ap Howel; gweler yr erthygl ar Mostyn (Mostyn).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.