Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN LLWYD ab Y GARGAM (14eg g.), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd; Nid erys unrhyw wybodaeth amdano, ond cadwyd awdl o'i waith, sef un i Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy ym Morgannwg, yn ‘Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill. Argraffwyd hi yn Myv. Arch., ond rhoddwyd enw Iorwerth Llwyd ab y Gargam wrthi yno.

Llyfryddiaeth:

  • Jes. Coll. MS. 1 (‘Llyfr Coch Hergest');
  • Llanst. MS. 133 (854);
  • N.L.W. MS. 4973 (166);
  • M.A. (Myv. Arch.), 1870, 335;
  • J. Davies, Dictionarium Duplex.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni