IEUAN TEW

Enw: Ieuan Tew
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Eisteddfod
Awdur: Ray Looker

Yr oedd dau fardd yn dwyn yr enw, sef (1) IEUAN TEW BRYDYDD HEN, fl. c. 1400-40; brodor o Gydweli yn Sir Gaerfyrddin, a (2) IEUAN TEW BRYDYDD IEUANC, brodor o Arwystli yn Sir Drefaldwyn fl. c. 1560-90, disgybl disgyblaidd cerdd dafod eisteddfod Caerwys yn 1568 - Peniarth MS 121 (215), Peniarth MS 132 (61) - dywedir iddo gael ei gladdu yn Llanidloes.

Cadwyd llawer o farddoniaeth y ddau mewn llawysgrifau, ond anodd yn aml yw gwahaniaethu rhwng eiddo'r naill a'r llall. Ymhlith gwaith yr hynaf ceir cywyddau ymryson i Mastr Harri; canodd yr ieuaf gywyddau ymryson i Bedo Hafesb a chymerth ran hefyd gyda'r tri bardd, Siôn Phylip, Wiliam Llŷn, a Hywel Ceiriog, yn yr ymryson gyda Wiliam Cynwal a Huw Llŷn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.