IEUAN TUDUR OWEN (fl. c. 1627), bardd

Enw: Ieuan Tudur Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ni wyddys dim o hanes ei fywyd, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau. Yn ei blith ceir cywyddau ac englynion crefyddol a moesol, cywydd yn disgrifio breuddwyd a gafodd ar ôl meddwi, cywydd i'r parlys, ac englynion moliant a gyfansoddwyd i Huw Nannau pan wnaethpwyd ef yn siryf. Ceir hefyd un darn o ganu rhydd ganddo. Y mae'r llawysgrifau canlynol yn cynnwys enghreifftiau o'i waith: Bodewryd MS 1D ; Cardiff MSS. 19, 47, 64, 66; Cwrtmawr MS 5B (i-ii) , Cwrtmawr MS 244B ; NLW MS 3047C ; NLW MS 643B , NLW MS 3487E , NLW MS 11816B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.