IOLO GOCH
(
c.
1320
-
c.
1398
),
bardd
;
brodor o
ddyffryn Clwyd
, mab
Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd
. Yn ôl stent arglwyddiaeth
Dinbych
gan
Hugh de Beckele
yn
1334
, daliai
Ithel Goch
ddarn bach o hen etifeddiaeth y teulu ar rent yn nhref
Lleweni
, ac yr oedd ganddo dŷ i fyw ynddo yno. Yn ychwanegol rhentai oddi wrth yr arglwydd ddarnau bychain o dir yn
Llechryd
ac ym
Merain
. O'r gweithiau a briodolir i
Iolo
yn y llsgrau, yr hynaf a ellir ei ddyddio yw awdl i
Dafydd ap Bleddyn
,
esgob Llanelwy
o
1314-46
, ac un o'r rhai diweddaraf yw cywydd i
Ieuan
Trefor
II
[q.v.]
,
esgob Llanelwy
, a ganwyd yn ôl pob tebyg yn
1397
. Rhwng y ddau begwn hyn ceir cywyddau ganddo fel hyn: mawl i
Edward
III
, diwedd
1347
; marwnad
Syr
Rhys ap Gruffudd
a fu f.
yn
1356
(yr oedd
Iolo
yn ei angladd yng
Nghaerfyrddin
); marwnad
Tudur Fychan
,
Tre'r Castell
,
Môn
, a fu f. yn
1367
; mawl i
Syr
Hywel y Fwyall
, cyn
1381
; marwnad
Ithel ap Robert
,
archddiacon Llanelwy
, a fu f.
1382
; marwnad
Ednyfed
a
Gronwy
, meibion
Tudur Fychan
(
boddodd
Gronwy
yn
1382
); mawl i
Ieuan ab Einion
o
Chwilog
pan oedd yn
siryf Caernarfon
(
1385-90
); mawl i
Syr
Rosier
Mortimer
,
iarll Mars (a iarll Dinbych)
, a ganwyd
rhwng 1395 a 1398
; ac awdl fendith ar lys
Hywel
Cyffin
,
deon Llanelwy
o
1385-97
. Ceir tri chywydd a ganodd i
Owain Glyndŵr
, ond prin iawn y gellir dyddio'r olaf o'r tri wedi
1386
. Perthynai
Iolo
felly yn hollol i'r
14eg g.
, ac yr oedd yn gyfoeswr â
Dafydd ap Gwilym
a
Llywelyn Goch Amheurig Hen
; canodd farwnadau i'r ddau. Bu hefyd yn ffraeo'n farddol gyda
Gruffydd Gryg
. Canodd awdlau yn null y Gogynfeirdd, a hyd yn oed yn ei gywyddau ceir digon o olion hynafiaeth o ran geirfa a chystrawen. Fel
Dafydd ap Gwilym
cwerylodd yn bur gas gyda'r
Brodyr Llwyd
. Mewn un cywydd, ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r corff (hen thema lenyddol), disgrifia daith glera drwy
Geri
,
y Drenewydd
,
Maelienydd
,
Elfael
,
Buallt
,
Blaenau Taf
,
Caeo
,
Cydweli
,
Ystrad Tywi
,
yr Hen Dygwyn-ar-Daf
,
Ceredigion
hyd
Ystrad Fflur
, a hynny efallai tua
1387
. Un o'i gywyddau enwocaf yw hwnnw i'r llafurwr, gyda'i ddisgrifiad gwych o'r aradr. Pennaf noddwr
Iolo Goch
oedd
Ithel ap Robert
. Yr oedd y rhan fwyaf a folodd yn bleidwyr selog i goron
Lloegr
, ac ni chododd ei lef mewn gwrthryfel.
Llyfryddiaeth:
-
Lewis
,
Roberts
, a
Williams
,
(arg.
1925
), ix-lxxvii; (arg.
1937
), ix-xii.
Awdur: