Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IORWERTH DRWYNDWN (bu f. c. 1174 , y mae'n debygol),

mab hŷn Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn . Priododd dywysoges o Bowys , sef Marared ferch Madog ap Maredudd , a chael ohoni un mab — y tywysog Llywelyn Fawr (wedi hynny). Pan rannwyd tiroedd ei dad cafodd Iorwerth Arfon ac, y mae'n debyg, Nantconwy . Ychydig wedi hynny diflanna o dudalennau hanes; efallai iddo f. pan gipiodd ei hanner-brawd, David I , yr awenau yn rhanbarthau gogleddol Gwynedd yn 1174 .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54