Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IORWERTH (neu GERVASE ) abad Talyllychau ac esgob Tyddewi o 1215 hyd 1229 .

Yr oedd ei ethol ef yn esgob — fe'i cysegrwyd yn Staines ar 21 Mehefin 1215 , ychydig ddyddiau wedi i Magna Carta gael ei selio — yn fuddugoliaeth i ymdeimlad cenedlaethol y Cymry yn y frwydr hir ynglŷn â statws esgobion ac esgobaeth Tyddewi ac yn oruchafiaeth i bolisi Llywelyn Fawr . Yr oedd Iorwerth yn ŵr o gymeriad da ac yn Gymro pur o ran gwaed (ni wyddys ddim am ei dras) ac eto nid oedd yn anghofio nac yn anwybyddu ei ddyletswydd yn rhinwedd y llwon a dyngasai i'r Goron ac i archesgobaeth Caergaint , a bu'n mynychu cynghorau'r brenin ac yn cyfryngu rhwng y Cymry a'r Saeson ar waethaf y perygl o beidio â boddio croniclydd ei hen abaty yn Talyllychau . Mewn gwirionedd, ychwanegodd yr abaty at ei gyfoeth yn fawr yn rhinwedd rhoddion a grantiau o eglwysi a ganiatawyd iddo gan Iorwerth yn ystod ei dymor fel esgob . Gadawodd argraff ddofn ar ei esgobaeth hefyd trwy ddiwygio cyfansoddiad y cabidwl ac ailadeiladu rhannau o'r eglwys gadeiriol .

Ffynonellau:

  • Giraldi Cambrensis Opera (1861–91) , iii, 361-4;
  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • E. J. Newell , A History of the Welsh Church to the Dissolution of the Monasteries (Llundain, 1895) ;
  • Jones a Freeman , The History and Antiquities of St. David's (1856) .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54