ISAAC, EVAN (1865 - 1938), gweinidog Wesleaidd

Enw: Evan Isaac
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1938
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd 18 Mehefin 1865, yn Nhaliesin, Ceredigion. Wedi ych'dig addysg yn ysgol y pentref dechreuodd weithio mewn gwaith mwyn lleol yn 10 oed. Yna aeth i lofeydd y De, a bu'n gweithio yno am flynyddoedd. Dechreuodd bregethu pan oedd yn löwr yn Aberpennar. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1888, a bu yng Ngholeg Handsworth, Birmingham (1888-91). Yn Neheudir Cymru y bu holl gylch ei lafur - Bryn Mawr (1891); Merthyr Tydfil (1894); Treorci (1895); Tyddewi (1896); Machynlleth (1897); Merthyr Tydfil (1900); Machynlleth (1903); Llanidloes (1904); Machynlleth (1907); Llanidloes (1910); Treorci (1913); Merthyr Tydfil (1916); Aberystwyth (1919); Ferndale (1925); Llanidloes (1926). Ymneilltuodd o Landeilo Fawr yn 1932, gan drigo am ychydig yn Aberystwyth; yna aeth i Daliesin. Bu farw 16 Rhagfyr 1938. Yr oedd yn ddibriod.

Fel swyddog taleithiol y bu ei wasanaeth amlycaf. Wedi peth amser yn ysgrifennydd cenhadaeth gartref ei dalaith, fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd y capelau, a daliodd y swydd am 10 mlynedd. Yna fe'i hetholwyd yn gadeirydd y dalaith (1917), a bu yn y swydd am 15 mlynedd - hyd ei ymneilltuad. 'Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa Wesleaidd (1917), ac fel llywydd y gymanfa bu'n gynrychiolydd i'r gynhadledd Fethodistaidd Ecumenaidd yn Toronto. Etholwyd ef yn aelod o Gant Cyfreithiol ei gyfundeb (1917).

Cyhoeddodd Prif Emynwyr Cymru, Yr Hen Gyrnol, Coelion Cymru, Humphrey Jones a Diwygiad 59, a ' Daniel Owen,' sef 12 ysgrif yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd 1919.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.