JACOB, WILLIAM (1777 - 1845), cerddor

Enw: William Jacob
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1845
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn ochrau Caerfyrddin; eithr o Fanceinion y daeth (tua 1818) i Dreffynnon, lle y tyfodd yn ganwr rhagorol, ac yn arweinydd y canu yng nghapel y Wesleaid am lawer o flynyddoedd. Yn 1844 dug allan Eos Cymru, 'sef casgliad o donau, erddygannau gwreiddiol, ac anthemau addas i'r addoliad dwyfol.' Y mae pedair o donau ac anthem fechan o'i waith ef ei hun yn y casgliad, a rhai cytganau o waith Handel. Yn Eos Cymru yr ymddangosodd y dôn ' Huddersfield ' (Newton) gyntaf yng Nghymru ar y geiriau 'Duw mawr y rhyfeddodau maith.' Bu farw 27 Hydref 1845 yn 68 oed, a chladdwyd ym mynwent eglwys Holywell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.