JAMES
,
ANGHARAD
(
fl.
1680?-1730?
),
prydyddes
,
yn byw yn y
Parlwr
,
Penanmaen
,
Dolwyddelan
. Rhoddir peth o'i hanes gan
Owen
Thomas
yn
Cofiant John Jones, Talsarn
, pen. 1. Yno dywedir mai merch oedd hi i
James
Davies
ac
Angharad
Humphreys
,
Gelli Ffrydau
,
Llandwrog
,
sir Gaernarfon
, ei bod hi'n 20 oed pan briodwyd hi â
William
Prichard
, a oedd yn 60 mlwydd oed ar y pryd, iddi gael addysg dda a dyfod yn hyddysg yn yr iaith
Ladin
, ei bod yn
fedrus gyda'r delyn
, ac yn
prydyddu
. Yr oedd
John
Jones
,
Talsarn
, yn or-ŵyr iddi hi a'i gŵr trwy eu merch ieuengaf,
Catherine
, ac yn or-or-ŵyr trwy eu merch hynaf, sef
Gwen
. Cadwyd peth o'i gwaith mewn llawysgrifau. Dyma esiamplau: cerdd yn dechrau ‘
Och alar o choeliwch och golli diddanwch
’ (‘
Angharad
James
a'i canodd rhyngthi ai gwr
Wm.
Prichard
y fl.
1718
’); un arall, ‘
Ymddiddan rhwng dwy chwaer, un yn dewis gwr oedrannus a'r llall yn dewis ieuenctid
’ (‘
Angharad
James
a'i canodd o'r ymddiddan a fu rhyngthi a'i chwaer
Margared
James
’); dau bennill — ‘
Pan oeddid yn bygwth Wm. Prichard o Ben-An-maen o Ddôl Gwyddelan a chyfraith, ebre ei wraig yn y flwyddyn 1717.
’
Llyfryddiaeth:
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
9 a 436;
-
Llawysgrif Glyn Davies yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
25 (N.L.W.);
-
Llawysgrif Tanycastell yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
13 (N.L.W.).
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth