JAMES, HERBERT ARMITAGE (1844 - 1931), clerigwr a phrifathro

Enw: Herbert Armitage James
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Emma James (née Armitage)
Rhiant: David James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a phrifathro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Kirkdale, ger Lerpwl, 3 Awst 1844, ail fab y Parch. David James ('Dewi o Ddyfed'). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Fenni, ac ymunodd â Choleg Iesu, Rhydychen, yn 1863. Yn 1864 enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Lincoln a graddiodd â'r anrhydeddau uchaf yn y clasuron. Cymerodd ei B.A. yn 1867, M.A. yn 1870, B.D. yn 1874, D.D. yn 1895; urddwyd ef yn ddiacon gan esgob Rhydychen yn 1870 ac yn offeiriad yn 1872. Bu'n gymrawd o Goleg S. Ioan a bu'n athro neu'n brifathro mewn pedair o ysgolion cyhoeddus Lloegr. Am dair blynedd (1886-9) bu'n ddeon Llanelwy, ac wedi hynny am 40 mlynedd yn un o gaplaniaid A. G. Edwards. Bu'n llywydd Coleg S. Ioan o 1909 hyd ei farwolaeth, 15 Tachwedd 1931. Claddwyd ef yn Wolvercote, ger Rhydychen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.