Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, DANIEL (‘Gwyrosydd ’; 1847-1920), bardd; g. yn Nhreboeth, Abertawe, 13 Ionawr. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn hen eglwys Mynyddbach, lle y canodd ‘Gwyrosydd’ lawer amdano. Collodd ei dad yn ifanc ac aeth i weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforus i helpu magu'r plant eraill. Yna gweithiodd am flynyddoedd yng ngwaith alcam Glandŵr. Trwythodd ei hun yn Ysgol Farddol ac Ysgol Gymreig Dafydd Morgannwg.’ Ei enw barddol cyntaf oedd ‘Dafydd Mynyddbach,’ ond ar awgrym Dafydd Morgannwg fe'i newidiodd i ‘Gwyrosydd.’ Daeth yn enwog fel telynegydd a chyfansoddwr darnau adrodd poblogaidd yn eu dydd, megis ‘Ymson y Llofrudd,’ ‘Ble aeth yr Amen?’ ac yn ddiweddarach, ‘Fy hen siwt waith’ ac ‘Y Gog ac Adar Cymru.’ Bu'n cynnal dosbarthiadau gramadeg Cymraeg yn yr ardaloedd lle bu'n byw. Pan oedd yn ganol oed, caeodd gwaith Glandŵr, ac aeth ‘Gwyrosydd’ i Dredegar a Dowlais, ac yna i Gwmgarw, lle y cafodd waith pwyso a thrafod glo ar ben pwll. Daeth yn gyfeillgar â Glyndwr Richards, arweinydd canu, ac fe'i dilynnodd i Aberpennar, lle bu ‘Gwyrosydd’ fyw 20 mlynedd, gan weithio 15 ohonynt yn un o byllau Nixon, ac, ar ôl i'w iechyd wanhau, am bum mlynedd dan y cyngor lleol. Yn 1918 dychwelodd i Dreforus at ei ferch a'i fab yng nghyfraith, ac yno y bu f. ar 11 Mawrth 1920, a'i gladdu ym Mynyddbach. Dadorchuddiwyd tabled efydd iddo yn neuadd gyhoeddus Treboeth yn 1936. Gadawodd ddau fab a dwy ferch ar ei ôl.

Cyhoeddodd lawer o farddoniaeth mewn cylchgronau a phapurau newydd (e.e. Y Darian), ac yr oedd yn boblogaidd am ei naturioldeb sionc a'i delynegrwydd ysgafn. Cyhoeddwyd Caneuon Gwyrosydd (Plasmarl, 1885), a'r ‘ail lyfr,’ sef Caniadau Gwyrosydd (Caernarfon, 1892). Yn yr ail y ceir ‘Calon Lân,’ ei ddarn enwocaf, emyn y bu llawer o ganu arno yn ystod y diwygiad (1904-5), a byth er hynny. Cafwyd argraffiadau newydd o'r ddau lyfr gan yr Educational Publishing Co., Caerdydd, yn 1909. Ymddangosasai Aeron Awen Gwyrosydd yn Aberpennar yn 1898, ac ar ôl ei farw gwnaed casgliad newydd o'i waith gan Gymdeithas y Mabinogion, Abertawe.

Llyfryddiaeth:

  • O. T. Hopkins yn Y Darian, Gorffennaf-Awst 1918;
  • ‘Awstin’ yn Cambria Daily Leader, 12 Mawrth 1920;
  • S. Wales Weekly Post, 20 Chwefror 1920;
  • Blackwell.

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban