JAMES, DAVID (1863-1929) ac EVAN (bu f. tua 1920), chwaraewyr pêl droed (Rygbi),
hanerwyr nodedig iawn a chwaraeai dros Abertawe. Fel pâr yn hytrach nag fel unigolion yr enillasant glod, a hwy a gychwynnodd y cynllun chwarae ‘hanerwyr’ a ddatblygwyd i gymaint bri wedyn gan R. M. Owen [q.v.], Richard Jones, a W. J. Trew [q.v.]. Chwaraeodd y ddau frawd dros Gymru, ond ymadawsant i Ogledd Lloegr fel chwaraewyr llog. Dychwelasant i Gymru'n ddiweddarach, a chwarae dros Abertawe — a thros Gymru yn 1899. Bu David James f. 2 Ionawr 1929.
Llyfryddiaeth:
- Rugby Football Annual, 1929-30, 18;
- W. J. T. Collins, Rugby Recollections, 91-2;
- The Times, 3 Ionawr 1929;
- West. Mail, 3 Ionawr 1929.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth