JAMES, EDWARD (1839-1904), gweinidog Annibynnol;
g. yn Llanfachraeth, Môn, 12 Mehefin 1839, yn blentyn hynaf John a Margaret James, a brawd O. Waldo James [q.v.]. Ymaelododd ym Modedern yn 1853, a chodwyd ef i bregethu yn y Tabernacl, Caergybi, yn 1858, dan weinidogaeth William Griffith [q.v.]. Yn 1859, ar gais ei gyfaill William Ambrose (‘Emrys’), Porthmadog [q.v.], aeth i'r Gorseddau, ger Penmorfa, sir Gaernarfon, i bregethu a chadw ysgol i'r gweithwyr llechi. Derbyniodd alwad i Lanaelhaearn a Sardis (Llangybi) yn 1860 ac ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yno, 31 Gorffennaf-1 Awst 1861. Symudodd i Nefyn a'r Morfa yn 1872, ac yno y bu hyd ei ymddiswyddiad oherwydd afiechyd yn 1897. Bu f. 21 Rhagfyr 1904, wedi cystudd maith.
Un o wŷr enwocaf ei enwad oedd ‘James Nefyn.’ Gwnaed tysteb enwadol iddo yn 1893, ac etholwyd ef yn llywydd Undeb Annibynwyr Cymru yn 1894. Cyhoeddodd (1) Ffyddlondeb Crefyddol, sef Pregeth … (Bethesda, 1866), a (2) Amrywiol Bregethau … (Dolgellau, 1900), yn cynnwys ei anerchiad i'r Undeb yn 1894 ar ‘Yr Annibynwyr Cymreig yn y Dywysogaeth a Threfi Seisonig.’
Llyfryddiaeth:
- O. L. Roberts, Cofiant Edward James, 1906;
- Congl. Year Book, 1906;
- Y Tyst, 28 Rhagfyr 1904.
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth